Safonau Ansawdd
Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig
Mae Cig Eidion Celtic Pride wedi cael statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI). Maer label PGI yn dilysur brand ac yn pwysleisio cywirdeb yr arferion ffermio, bod modd olrhain y cig yn llwyr ar rheolaeth sicrwydd ansawdd.
Mae PGI yn sicrhau bod gwartheg Celtic Pride yn cael eu geni au magu yng Nghymru a bod yr holl brosesau ychwanegol yn cael eu cynnal mewn mannau y gellir eu marchnata dan y pennawd Cymreig. Maen rhaid bod modd olrhain y cig yn llwyr or fferm ir plât.
Protocol
Cyflawnwyd y nod rhagoriaeth mewn cynhyrchu cig eidion trwy gydweithio â chynlluniau Gwarant Fferm, arbenigedd rheoli glaswelltir Sefydliad y Gwyddorau Biolegol ac Amgylcheddol (IBERS, yr hen IGER) ym mhrifysgol Aberystwyth a phrofiad y gwneuthurwyr porthiant Wynnstay. Rheolir yr elfennau hyn gan dîm Celtic Pride sydd ar gael i ymweld â ffermydd, cynnal archwiliadau a dod i gyswllt ar draws y gadwyn gyflenwi.
Elfen allweddol o lwyddiant y cynllun ywr bartneriaeth a ddatblygwyd gydar ffermydd syn cynhyrchu. Mae ffermwyr yn aelodau o Gwmni Cig Cymru ac yn cadw at brotocol ymarferol, gydag aelodaun cael eu harchwilion flynyddol i gwrdd â safonau gwarant ffermydd hwsmonaeth a lles. Fel gwobr am eu sgiliau stocmon, mae cynhyrchwyr yn cael marchnad warantedig, cig eidion cydnabyddedig wedii frandio a phris premiwm am eu da byw.
==rightcolumn==
Ansawdd
Mae modd olrhain cig eidion syn cael ei farchnata dan frand Celtic Pride or fferm ir cwsmer. Caiff ei gynhyrchu ai brosesu yng Nghymru i gwrdd âr safonau uchaf o ran ansawdd, iechyd, blas a diogelwch. Cyflawnir y safonau hyn drwy weithredu system arfer da wrth gynhyrchu, caffael, prosesu a gwerthu gydar cig yn cael ei aeddfedu am 21 diwrnod.
Gwair a bwyd arall a dyfir yn y cartref yw prif ran o ddiet oes anifeiliaid (fel y bwriadwyd gan natur) felly nid oes hormonau neu ychwanegion cemegol i hybu tyfiant neu bwysau yn rhan ohono. Maer holl elfennau hyn yn dod at ei gilydd ac yn dwyn ffrwyth yn y blas heb ei ail syn tynnu dŵr och dannedd.