Amdanon ni
Mae Cynllun Cig Eidion Cymreig Premiwm Celtic Pride yn bartneriaeth gyflenwi rhwng tri or prif fusnesau bwyd-amaeth yng Nghymru, sef Celtic Pride (Cwmni Cig Cymru gynt), Wynnstay Plc a Bwydydd Castell Howell Cyf.
Celtic Pride Cyf
Mae Celtic Pride Cyf yn gwmni caffael a marchnata da byw syn rheolir cynllun ac yn sicrhau bod uniondeb y gadwyn gyflenwi, or ffermwr ir cwsmer, yn cael ei gynnal.
Wynnstay Group Plc
Grŵp Wynnstay ywr gwneuthurwr bwyd anifeiliaid a chyflenwadau amaethyddol mwyaf yng Nghymru. Mae eu datblygiad au gwybodaeth helaeth or drefn fwydo yn hanfodol ar gyfer ansawdd y cig eidion.
Bwydydd Castell Howell Cyf
Mae Bwydydd Castell Howell Cyf yn un o brif gyflenwyr cig Cymreig y sector arlwyo a manwerthu yng Nghymru. Caiff y broses o aeddfedu a phrosesur carcas CP ymhellach ei chwblhau yn eu huned bwtsiera, sydd wedi ei chymeradwyo, yng Nghaerfyrddin. Yn bennaf, maer broses o ddosbarthur cig/cynnyrch gorffenedig ir sector arlwyo yn digwydd trwy sianel gyfanwerthu BCH a phartneriaid dosbarthu dethol.
Mae hanes y brand yn mynd yn ôl i 2003. Fei ganed o alw gan ddefnyddwyr am gig eidion Cymreig o ansawdd cyson uchel, syn cadw at y safonau lles uchaf. Maer bartneriaeth yn llwyddo i gwrdd âr nodau hyn ac mae wedi tyfu i fod yn un o frandiau cig eidion mwyaf cydnabyddedig Cymru. Croesewir Cig Eidion Celtic Pride mewn nifer cynyddol o westai a bwytai ar draws y Dywysogaeth a Gorllewin Lloegr. Mae gan Gig Eidion Celtic Pride statws uchel ei fri PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig), syn cael ei roi i gynnyrch bwyd y gellir eu holrhain yn llwyr o fewn eu gwlad wreiddiol.
Cyflawnwyd y nod o sicrhau rhagoriaeth wrth gynhyrchu cig eidion trwy gydweithio gyda chynlluniau Gwarant Ffermydd, arbenigedd rheoli glaswelltir IBERS (Sefydliad Astudiaethau Biolegol ac Amgylcheddol (IGER gynt) ym Mhrifysgol Aberystwyth a phrofiad gwneuthurwyr porthiant Wynnstay. Rheolir yr elfennau hyn gan dîm Celtic Pride, sydd ar gael i ymweld â ffermydd, cynnal archwiliadau a dod i gyswllt ar draws y gadwyn gyflenwi.
Elfen allweddol o lwyddiant y cynllun ywr bartneriaeth a ddatblygwyd gydar ffermydd syn cynhyrchu. Mae ffermwyr yn aelodau o Gwmni Cig Cymru ac yn cadw at brotocol ymarferol, gydag aelodaun cael eu harchwilion flynyddol i gwrdd â safonau gwarant ffermydd hwsmonaeth a lles. Fel gwobr am eu sgiliau stocmon, mae cynhyrchwyr yn cael marchnad warantedig, cig eidion cydnabyddedig wedii frandio a phris premiwm am eu da byw.
Y drydedd ddolen yn y gadwyn ywr llwybr at y farchnad. Mae Bwydydd Castell Howell a Weddel Swift yn dosbarthur cig eidion ledled Cymru a thu hwnt. Mae Cig Eidion Celtic Pride ar gael mewn nifer cynyddol o allfeydd manwerthu ac arlwyo.
==rightcolumn==
Yn yr oes hon o fasgynhyrchu, mae llawer o ddefnyddwyr yn dechrau holi mwy o gwestiynau ynghylch tarddiad eu bwyd a sut mae wedi cael ei gynhyrchu, ac mae ond yn iawn eu bod nhwn gwneud hynny.
Fe fydd un blas o gig Celtic Pride yn cyfleur ymdeimlad o falchder y mae ffermwyr a chigyddion lleol yn ei deimlo tuag at eu cig eidion, syn gyson rhagorol.
Maer system Celtic Pride yn hybu
cynaliadwyedd - ansawdd o flaen swmp
lles anifeiliaid - defnyddir porfa o ansawdd uchel, a phorthiant arall o ansawdd uchel wedi ei dyfu gartref, heb unrhyw ychwanegion na hormonau, i ganiatáu datblygiad arferol
y gallu i olrhain - gellir olrhain cig eidion or plât yn ôl ir fferm unigol
ansawdd - trwy gymryd amser (21 diwrnod) i aeddfedur cig, a gofal sylweddol wrth ei brosesu, rydyn nin cadw ansawdd eithriadol y cig.
cysondeb - mae dulliau syn cael eu rheolin dda yn golygu bod pob darn o gig or ansawdd uchaf posib
milltiroedd bwyd isel
Maer holl elfennau hyn yn dod at ei gilydd ac yn dwyn ffrwyth yn y blas heb ei ail syn tynnu dŵr och dannedd.